Archif Data Pel-droed Cymru
Toglo llywio

Prosiect ADPC

Cup winners
Yr un cwpan ond cyfnodau gwahanol.
Newtown White Star, yr ail glwb i gipio’r tlws, ym 1878 a Y Bala, yr enillwyr yn 2017.

MAE gan Archif Data Pel-droed Cymru (ADPC), sy’n ymgorffori nifer o ymchwilwyr a haneswyr yng Nghymru a thu hwnt, sawl amcan. Man cychwyn y prosiect oedd y bwriad i gasglu ynghyd rhestr gyflawn o ganlyniadau yng Nghwpan Cymru ers sefydlu’r gystadleuaeth nol ym 1876, yn ogystal â manylion llawn pob gêm derfynol. Cyflawnwyd hyn bellach ac mae’r casgliad yn rhagori ar yr hyn oedd ym meddiant y Gymdeithas Bel-droed (FAW) cyn hynny. 

Yn y pen draw bydd yr archif yn cynnwys canlyniad pob gêm ryngwladol a chwaraewyd gan ein tîm cenedlaethol ynghyd â rhestr yr holl chwaraewyr a fu’n gwisgo’r crys coch. Ond y prif bwyslais ar hyn o bryd yw cynhyrchu archif fydd yn croniclo hanes pob cynghrair sydd wedi bodoli yng Nghymru o’r cyfnod cynnar ac arloesol hwnnw yn y 1890au hyd heddiw. 

Y nod yw cofnodi holl hanes y cynghreiriau hynny - o’u sefydlu a’u datblygiad hyd at eu difodiant - gan gynnwys cymaint â phosib o’r tablau diwedd tymor. Lle nad oes modd sicrhau tabl y nod fydd cael rhestr y clybiau a fu’n aelodau o’r cynghreiriau ynghyd ag enw y pencampwyr. Eisoes lluniwyd rhestr o’r 90 a mwy o gynghreiriau y gwyddom amdanynt ac mae’r gwaith ar y rhan hwn o’r prosiect yn datblygu yn hynod foddhaol. Ychwanegir manylion cynghreiriau unigol i’r safwe wrth i’r gwaith cael ei gwblhau. 

Yn ddi-os fe fydd ADPC yn adnodd wybodaeth hollbwysig i gefnogwyr pel-droed, i haneswyr, y cyfryngau ac wrth gwrs i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW). Bydd yn ffynhonnell hawdd ei chyrchu a bydd yn cynnig gwybodaeth fanwl am hanes y bêl gron yng Nghymru ddoe a heddiw.

[David James]

The Keith Harding Collection

A unique collection of photographs assembled by the late Keith Harding, who was chairman of Newtown Football Club for seven years, during which time the club became one of the Welsh Premier League's most successful clubs, and made UEFA Cup appearances in 1996 and 1998.

His legacy is the biggest collection of graphic material yet and hopefully an incentive for other clubs to research and make available their football heritage in the same way. Click to view the collection >>

  • Rydych chi yma: 
  • Hafan
  • English
  • Cymraeg
  • Tudalen cartref
  • Newyddion
  • CWPAN CYMRU
    • Yr enillwyr
    • Mesul blwyddyn
    • Rowndiau terfynol
    • Lluniau enillwyr
    • Nodiadau
  • Y CWPAN CENEDLAETHOL
    • Cynnwys
  • CYNGHREIRIAU CYMREIG
    • Gynghrair Cymru
    • Cymru Alliance
    • Welsh League
    • Gogledd Cymru
    • Canolbarth Cymru
    • De Cymru
    • Cymru North
    • Cymru South
  • RHYNGWLADOL
    • Y tîm hyn
    • Yn ystod y rhyfel
    • Amatur
  • EWROP
    • Clybiau Cymru yn Ewrop
  • CYNNWYS
    • Borough United
  • YR ORIEL
    • Cynnwys
    • Casgliad Keith Harding
  • GWYBODAETH
    • Tîm ADPC
    • Bwletin
    • Canllaw ymchwil
    • Memorabilia
    • Llyfryddiaeth
    • Map o'r wefan
    • Cyswllt

Site visits: 267235

Kubik-Rubik Joomla! Extensions


Yn ôl i'r brig

© 2022 Archif Data Pel-droed Cymru